Mudiad meithrin

Follow us
Open Jobs - 3

Send message to "Mudiad meithrin"

About Company

Y Mudiad: Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg mwyaf yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Sefydlwyd y Mudiad ym 1971 gydag oddeu…

Y Mudiad: Cymdeithas wirfoddol genedlaethol o gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd Cymraeg yw Mudiad Meithrin. Y Mudiad yw’r darparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg mwyaf yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Sefydlwyd y Mudiad ym 1971 gydag oddeutu 50 cylch. Erbyn hyn, wedi tyfu’n aruthrol, mae tua 550 o gylchoedd meithrin a 500 o gylchoedd Ti a Fi yn perthyn i’r Mudiad. Mae’r ddau gategori yma yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 22,000 o blant bob wythnos. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref. Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl yn genedlaethol, gyda 2000 ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd eu hunain. Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag Awdurdodau Lleol.