Job Description
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru?
Dewch i ymuno â theulu Mudiad Meithrin – rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant.
IDISGRIFIAD SWYDD: CYNORTHWYYDD
Y Mudiad: Ry’n ni’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg, a’n nod yw gweld siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu. Gwnawn hyn trwy ymgyrchu dros ofal ac addysg Gymraeg, cefnogi ein haelodau a chynllunio’n strategol i greu darpariaethau (Cylchoedd a Meithrinfeydd) newydd. Mae’n holl Gylchoedd a’n Meithrinfeydd Dydd yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl i tua 22,000 o blant ifanc bob wythnos. Ry’n ni hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda rhieni a gofalwyr er mwyn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth iddynt ar ddewis addysg Gymraeg, rhoi’r Gymraeg i’w plant a lle i ddechrau dysgu Cymraeg.
Mae bron i 300 o staff yn rhan o deulu Mudiad Meithrin gyda 2,000 yn gweithio yn lleol yn y Cylchoedd a’r Meithrinfeydd dydd. Ry’n ni eisiau i’r Mudiad fod yn gyflogwr sy’n denu grŵp amrywiol o unigolion talentog i weithio iddo, gan aros a’n hargymell fel cyflogwr da. Rydym yn rhoi ein ffydd yn ein staff ac yn rhoi’r grym a chefnogaeth iddynt wneud eu gorau er lles ein haelodau, ein pobl a’u hunain. Mae adlewyrchu’r cymunedau ry’n ni’n cefnogi yn bwysig i ni felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.
Gwerthoedd Gwaith Mudiad Meithrin
Dyma’r gwerthoedd sydd yn llywio gwaith a gweithgarwch staff Mudiad Meithrin
Caredig a chyfrifol – dangos parch at ein hunain, at waith ein gilydd, at bob un sydd yn dod i gysylltiad ȃ ni yn ein gwaith ac at ein cynefin a’n byd
Tryloyw ac anrhydeddus – trwy dryloywder a gonestrwydd, bod yn atebol am ein penderfyniadau, bod yn barod i gyfaddawdu ac i ddysgu o’n camgymeriadau
Proffesiynol ac adeiladol – gwneud ein gorau o hyd gan anelu at greu gwaith o safon uchel, bod yn arloesi a mentro gan roi bri ar ddatblygu’n hunain
Cynhwysol a chroesawgar – gweithredu’r egwyddor fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ei fod yn gyfrwng i’n huno a’i bod yn sylfaenol i bob agwedd o’n gwaith
Y Feithrinfa: Mae Meithrinfa Garth Olwg, Pentre’r Eglwys yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant o chwe wythnos oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Mae’r feithrinfa wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.
Lleoliad:
Meithrinfa Garth Olwg, Pentre’r Eglwys, Pontypridd
Gwneud Cais: Bydd disgwyl i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais ar gyfer y swydd. Ni dderbynnir CV yn lle ffurflen gais. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr nodi sut y maent yn ateb y gofynion hanfodol, a dymunol os yn berthnasol, fel y nodir yn y fanyleb person.
Mwy am Mudiad Meithrin: I ddarganfod mwy o fanylion am Mudiad Meithrin, ewch i’n gwefan dilynwch ni ar ‘Twitter’ (@MudiadMeithrin) neu ewch i’n tudalen ‘facebook’.
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Dilyn arweiniad a chyfarwyddiadau’r Arweinydd Ystafell i;
· Gyflawni unrhyw dargedau sydd gan bob ystafell
· Ddilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisïau’r Feithrinfa
· Sicrhau bod bob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf
· Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol
· Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi at hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg
· Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu gysgu yn ôl ei anghenion
· Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol
· Sicrhau bod yr adnoddau o fewn cyrraedd hwylus, ac yn addas i oedran y plant
· Croesawu rhieni i’r Feithrinfa ar bob adeg
· Adrodd i’r rhiant yr hyn a gyflawnwyd gan y plant yn ystod y dydd yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd Ystafell
· Cwblhau taflen dyddiol y plentyn
· Arsylwi ar blant a chofnodi eu cynnydd a’u datblygiad
· Sicrhau bod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant
· Sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gael gymryd rhan yn yr holl weithgareddau
· Cefnogi holl weithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o’u hamgylchedd
· Cydweithio i arddangos gwaith y plant mewn modd deniadol ac wedi ei labelu’n glir
· Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i’r plant o fewn y feithrinfa
· Trochi’r plant yn y Gymraeg drwy’r dydd.
· Disgwylir i bob aelod o staff y Feithrinfa gyfathrebu’n Gymraeg gyda’u cyd-weithwyr
· Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd
· Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch, a’u bod yn cael eu cadw’n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd
· Gweithredu pob gweithdrefn a pholisi ar bob adeg
· Cydweithio i weithredu’r Cyfnod Sylfaen
· Sicrhau bod yr ystafell a’r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar
· Mynychu cyfarfodydd arfarnu a goruwchwiliaeth rheolaidd gan drafod cyfleodd datblygiad proffesiynol.
· Mynychu cyfarfodydd staff rheolaidd sydd yn cael ei drefnu gan yr arweinydd / Rheolwr y Feithrinfa .
· Cefnogi Arweinydd yr ystafellmewn cyfarfodydd gyda rhieni pan fydd angen e.e (noson rhieni, unrhyw ymholidau ynghun a datblygiad).
· Mynychu hyfforddiant yn ōl yr angen
· Cefnogi gweithgareddau codi arian y Feithrinfa
· Ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa a Rheolwr Meithrinfeydd Cymru.
Manylion y Swydd:
Teitl y swydd:
Cynorthwyydd
Hyd cytundeb:
Parhaol
Oriau gwaith:
40 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos gyda chyflog) rhwng dydd Llun a Gwener
8 awr y dydd ar rota wythnosol rhwng yr oriau 7.30am a 6pm, gyda ½ awr am ginio a 2 doriad o ¼ awr y dydd
Cyflog:
Cynorthwyydd Lefel 2: MCC 2 sef £11.64 yr awr
Cynorthwyydd Lefel 3: MCC 3 sef £11.84 yr awr
Cynorthwyydd Lefel 5: MCC 4 sef £12.04 yr awr
Gwyliau:
Cynigir 5.6 wythnos y flwyddyn o wyliau, yn cynnwys gwyliau banc cyhoeddus (sydd yn gyfateb i 28 diwrnod o wyliau). Bydd Meithrinfeydd Cymru hefyd yn cynnig diwrnod ychwanegol o wyliau gyda chyflog ar gyfer dydd Gŵyl Dewi. Bydd y feithrinfa ar gau dros y Nadolig ac mi fydd gan y Prif Weithredwr yr hawl i gynnig diwrnodau disgresiynol o wyliau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Pensiwn:
Mae Mudiad Meithrin yn cynnig cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 3% neu 6% gan y cyflogwr.
Buddion:
Mae Mudiad Meithrin yn cynnig buddion amrywiol gweler y daflen buddion.
Datgeliad Gwasanaeth Diogelwch a Gwahardd (GDG):
Mae’n ofynnol i Meithrinfeydd Cymru, gynnal gwiriad Gwasanaeth Diogelwch a Gwahardd (GDG) lefel ‘uwch’ (enhanced) gweithlu ‘plant’ ynghyd â chynnal gwiriad yn erbyn y ‘rhestr plant gwaharddedig’ (child barred list) ar gyfer staff Meithrinfeydd Cymru.
Datblygu a Hyfforddi:
Mae Mudiad Meithrin yn ymroddedig i ddatblygu a hyfforddi ei staff er mwyn gwella eu sgiliau, ehangu eu gwybodaeth a gwella’r gwasanaeth a gynigir gan y cwmni. Mae cyfle felly i staff fynychu hyfforddiant datblygiad proffesiynol fel rhan o’r swydd dan fantell ‘Academi’ ac fel arall.
Job Types: Full-time, Permanent
Pay: £12.21-£12.81 per hour
Expected hours: 37.5 per week
Benefits:
- Company pension
- On-site parking
- Sick pay
Schedule:
- Day shift
- Monday to Friday
Experience:
- Early childhood education: 1 year (required)
- Nursery experience: 1 year (required)
- Childcare: 1 year (required)
Language:
- Welsh / Cymraeg (required)
Work Location: In person
Application deadline: 29/01/2025