Mudiad meithrin
Nursery Assistant (Bank Staff) /Cynorthwyydd Meithrin (Staff Banc)
Job Description
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant bach Cymru?
Dewch i ymuno â theulu Mudiad Meithrin – rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant.
Y Mudiad: Ry’n ni’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg, a’n nod yw gweld siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu. Gwnawn hyn trwy ymgyrchu dros ofal ac addysg Gymraeg, cefnogi ein haelodau a chynllunio’n strategol i greu darpariaethau (Cylchoedd a Meithrinfeydd) newydd. Mae’n holl Gylchoedd a’n Meithrinfeydd Dydd yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl i tua 22,000 o blant ifanc bob wythnos. Ry’n ni hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda rhieni a gofalwyr er mwyn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth iddynt ar ddewis addysg Gymraeg, rhoi’r Gymraeg i’w plant a lle i ddechrau dysgu Cymraeg.
Mae bron i 300 o staff yn rhan o deulu Mudiad Meithrin gyda 2,000 yn gweithio yn lleol yn y Cylchoedd a’r Meithrinfeydd dydd. Ry’n ni eisiau i’r Mudiad fod yn gyflogwr sy’n denu grŵp amrywiol o unigolion talentog i weithio iddo, gan aros a’n hargymell fel cyflogwr da. Rydym yn rhoi ein ffydd yn ein staff ac yn rhoi’r grym a chefnogaeth iddynt wneud eu gorau er lles ein haelodau, ein pobl a’u hunain. Mae adlewyrchu’r cymunedau ry’n ni’n cefnogi yn bwysig i ni felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.
Gwerthoedd Gwaith Mudiad Meithrin
Dyma’r gwerthoedd sydd yn llywio gwaith a gweithgarwch staff Mudiad Meithrin
Caredig a chyfrifol – dangos parch at ein hunain, at waith ein gilydd, at bob un sydd yn dod i gysylltiad ȃ ni yn ein gwaith ac at ein cynefin a’n byd
Tryloyw ac anrhydeddus – trwy dryloywder a gonestrwydd, bod yn atebol am ein penderfyniadau, bod yn barod i gyfaddawdu ac i ddysgu o’n camgymeriadau
Proffesiynol ac adeiladol – gwneud ein gorau o hyd gan anelu at greu gwaith o safon uchel, bod yn arloesi a mentro gan roi bri ar ddatblygu’n hunain
Cynhwysol a chroesawgar – gweithredu’r egwyddor fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ei fod yn gyfrwng i’n huno a’i bod yn sylfaenol i bob agwedd o’n gwaith
Y Cylch: Mae’r cylch yn darparu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd i blant rhwng 2-4 mlwydd oed hyd at oed ysgol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig. Caiff pob plentyn gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n hybu pob agwedd o’i ddatblygiad. Mae’r cylch wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan is gwmni Mudiad Meithrin, sef Meithrinfeydd Cymru Cyf.
Lleoliad: Cylch Meithrin Gwdihw, Hub Dechrau’n Deg, Brynithel, NP13 2JZ
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Rheolwr/Arweinyydd cylch am gyflawni’r dyltswyddau canlynol:
- Sicrhau bod plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf i bob plentyn
- Dilyn holl bolisïau a gweithdrefnau’r cylch
- Sicrhau bod trefniadau bwyd yn cael eu gweithredu’n briodol
- Sicrhau bod amserau bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant
- Dilyn canllawiau hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg
- Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol
- Creu naws ac awyrgylch Cymraeg a Chymreig gan sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd
- Darparu gweithgareddau tu fewn a thu allan i hybu datblygiad corfforol ac ymwybyddiaeth y plant o’u hamgylchedd
- Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd
- Cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn ôl yr angen
- Cydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch ar bob amser
- Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch, a’u bod yn cael eu cadw’n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd
- Sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau
- Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo angen.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd/Rheolwr a’r Dirprwy Rheolwr Talaith
Am fwy o wybodaeth, copïwch y ddolen isod i’ch porwr:
Cynorthwyydd Achlysurol (Staff Banc) Cylch Meithrin Dechrau’n Deg Gwdihw, Brynithel
Gwneud Cais: Bydd disgwyl i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais ar gyfer y swydd. Ni dderbynnir CV yn lle ffurflen gais. Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr nodi sut y maent yn ateb y gofynion hanfodol, a dymunol os yn berthnasol, fel y nodir yn y fanyleb person.
Job Type: Zero hours contract
Pay: £11.44 per hour
Language:
- Cymraeg / Welsh (required)
Work Location: In person
Application deadline: 31/01/2025